Yr achlysur: Gig Catatonia ym Manceinion
Y dyddiad: Mai 6ed (dwi'n meddwl)
Ar ôl gwario £10 ar docyn trên i fynd i weld fy hoff grwp, a wedyn rhyw £20 arall ar ddiod (sesh mawr yn y Rampant Lion) Ro'n i'n barod i weld Cerys a'r bois yn perfformio Bleed, Whale, For Tinkerbell, Hooked ayb. Felly dyma fi'n cwympo wrth ddrws ffrynt Prifysgol Manceinion i weld (wel, jest: roedd fy llygaid yn brysur cau a'm bola yn brysur troi!) Poster anferth yn dweud: TONIGHT'S MARION CONCERT HAS BEEN POSTPONED (Marion oedd y prif grw^p)
Bymer! Am wastraff o arian ac amser!
Ar ol herio'n bobman am y band, lan a lawr, tu mewn a tu mas,wnes i ffeindio nhw - lle arall ond wrth y bar. Dyma Cerys yn cynnig diod i fi "ond s'dim ond £8 gen i". "S'dim ots" medda' fi, ddim really yn y mood i yfed rhagor.
"Ti'n dod nôl wythnos nesa?" mae'n gofyn,
"Wouldn't miss it for the world!" atebais yn syth.
Felly dyna fi, am wythnos cyfan, yn piso fy hunan, yn methu aros tan dydd Gwener. A chyn pen dim, cyrhaeddodd y diwrnod hwnnw.
Yr achlysur: Gig Catatonia ym Manceinion (eto)
Y dyddiad: Mai 12fed
Y tro hwn, talu £14 am y fraint i deithio ar ddydd Gwener. Cwrdd â ffrind yn Stocport. Dim arian ar ol wythnos diwetha', felly'n cyrraedd yn eitha' sobor. Ffiw! S'dim poster y tro hwn. Ond... tu mewn, ar y posteri hysbysebu, mae rhywun efo blue marker pen wedi rwbio enw Catatonia allan, a rhoi Thrush Puppies yn ei lle. AAAAAAAARRRRGGGHHHHH!!!!!!
Catatonic Catastrophe!
Diwedd y byd! Ro'n i'n pissed off i dd'eud y leiaf! Roedd y gig ei hunan yn shit! Roedd Purresence yn eitha da. Thrush Puppies yn hollol gach! A Marion yn total bunch of wankers - ddim yn haeddu y canmoliaeth maent yn gael o gwbl.
Dyw fy mywyd ddim 'di bod yn gyflawn ers y diwrnod hwnnw. Ond yn ara' deg, rwy'n gwella..... Dim ond 6 wythnos i fynd tan y Cnapan. Rwy'n piso fy hunan yn barod.....
Adolygiadau Gigs