Curiad Adolygiadau Gigs


Ecs a Coaster, Waterside, Caerfyrddin

20fed Mehefin 1997

Roeddwn i'n siwr mod i wedi camgymryd y clwb am playscheme pan gyrraeddais y Waterside, roedd y lle yn llawn o blant ysgol dan oedran yn yfed lager top a snoggian am y tro cyntaf. Doedd y ddau fand, ecs a coaster, ddim yn edrych yn ddigon hen i brynnu paced o ffags chwaith. Ta waith, chwaraeodd Coaster set dyn, roeddent yn gwybod ei Stereophonics a'i Oasis, ac os oeddent yn offerynwyr talentog, nid oedd gwreiddioldeb mawr yn ei caneuon. Serch hynnu, a hwithau'n tipsy ar ol yfed dau beint o lager & lime a drag o Malboro... The kids loved it.

Aeth Ecs ymlaen i'r llwyfan gan gyflwyno ffync i mewn i'r gem, shit hot sax player, a frontman allblyg... Digon dymunol, ond nid am ddwy blydi awr. Serch hynny fel dywedodd yr Who... "THE KIDS AR ALLRIGHT" a pwy ydw i ddadle gyd hynnu, cos dwi di bod yn un fy hyn. Chware teg i Gymdeithas yr Iaith am rhoi'r cyfle i'r grwpiau.

Over and out.


Steffan Cravos (bacras01@trinity-cm.ac.uk)

Cyf:gigs/1997/006
10 Gorffennaf 1997