Y Botel Wenwyn Ar Agor

Wel, mae'r gath allan o'r cwd. A'r cwd mewn cwestiwn ydi cynhrechwyr rhaglen ar $4C o'r enw "Uh Beed Ah Bedwah".

[ Nodyn: Mae $4C yn enwog iawn trwy'r byd am eu rhaglenni dychan. Mae ganddynt hanes hir a chlodwiw, gan ddechrau o gyfresi fel Marge Williams yn yr 80'au. Fe gafodd y gampwaith 'Tonight-Heno' ei lawnsio yn y 90'au, ac erbyn hyn mae llu o raglenni dychan wedi ymuno gyda hi; rhaglenni llawn ffraethineb fel Taro Baw, Top Tip, Marge Williams eto, ac wrth gwrs Uh Beed Ah Bedwah. Mae hyd yn oed rhaglen blant fel PaperHatzi wedi ei gydnabod fel un o raglenni dychan llwyddiannus y sianel. ]

Mae'r rhaglen UBAB (sy'n cael ei gynrechu gan Aitsh Tee Vee) wedi gwneud Darganfyddiad Syfrdanol Sydd O Bwys i Bawb! (llwyddodd y raglen godi bwys ar sawl achlysur). Mae eu hymchwil di-flino wedi dod a nifer o Feiau I'r Amlwg. Er enghraifft, maent wedi cael sgw^p, drwy ddarganfod fod pornograffi AFIACH i'w gael yn rhad a rhwydd ar y rhwydwaith arfaethedig a elwir yn Uwchdraffordd Wybodaeth. Tydi hon ddim yn bodoli eto, felly mae UBAB yn ei galw hi'n 'internet'. Maent wedi bod yn ymchwilio nawr ers oriau lawer, ac wedi gweld fod miloedd o blant ar hyd a lled y wlad yn mynd allan i brynu cyfrifiadur pwerus, modem, llinell ffôn arbennig, ac yna 'syrffio' y net drwy'r nos yn edrych ar luniau AFIACH wedi ei cymeryd gan bobl SAL. Fe fyddan nhw'n gwerthu'r lluniau afiach yn Smith's cyn bo hir, mae'n siwr i chi.

Sut, meddech chi, y mae'r plant yma yn gallu talu am yr holl offer? "Ahh", dyma lle mae pethau yn mynd yn glyfar. Hefyd ar gael ar yr internet, mae ffeiliau sydd yn dweud wrthoch Sut I Ddwyn. Felly gall unrhyw blentyn ddarllen rhain, yna mynd allan i ddwyn, a felly talu am yr offer cyfrifiadurol. Q..E..D..

Beth mae'r rhieni yn feddwl o hyn? Mae UBAB wedi gofyn iddynt, wrth gwrs. Mae UBAB wedi darganfod fod rhieni dosbarth canol, 'bourgeois', rhyddfrydol yn POENI DIM am beth mae ei plant yn ei wneud. Roedd y rhieni dosbarth gweithiol i gyd rhy brysur yn trio crafu dwy geiniog ynghyd (i dalu am y set deledu 21" newydd, a'r dôs wythnosol o nicotin ac alcohol), fel nad oeddent yn gallu cadw llygad ar eu pum plentyn.

"Felly", gofynnodd UBAB, "sut allwn ni stopio y mocheiddra yma?". Mae UBAB yn MYNNU fod rhaid cael deddf gadarn i stopio y budreddi yma i lygru ein plant. Maent yn dadle mae 'tegan i'r plant' yw'r internet, nid rhwydwaith ar gyfer oedolion i wneud be a fynnon, felly rhaid cael gwared unrhyw beth sydd yn AFIACH a LLYGREDIG, gan wneud popeth yn addas ar gyfer plentyn 5 oed.

Gwyliwch y rhaglen holl-bwysig yma ar $4C, ar y dydd Llun, 26ain o Fehefin am 7:30 yr hwyr. Roedd $4C yn meddwl fod cynnwys y rhaglen yn fwy addas ar gyfer amser hwyrach, ond Na meddai UBAB. Rhaid dangos i BAWB y ffieiddra sydd ar gael, ac os ydi hynny yn meddwl dangos merched noeth (wedi ei adlewyrchu yn glyfar mewn sbectol) am 7:30pm, yna fe fydd y ratings yn well.


Beth ddigwyddodd yn yr hen ddyddiau, cyn yr internet? Wel, roedd ein plant yn angylion, wrth gwrs. Roedd dim syniad ganddynt am ryw, na unrhyw ffieiddra corfforol arall. Mae'n wyrthiol fod ein cyn-teidiau wedi llwyddo i gael 6 neu 7 neu fwy o blant, gan nad oeddent yn gwybod DIM am rhyw, ac yn bendant nid oeddent yn ymwybodol o'i rhywioldeb, heblaw eu bont yn WYRDROEDIG.

Yn yr ysgol yn yr 80'au, roedd hi'n uffernol o anodd cael gafael ar pornograffi. Roedd hi bron yn amhosib, deud y gwir. Roedd rhaid cerdded yr holl ffordd lawr y cae peldroed, yna lawr y ffos tu ôl i'r cyrtiau tenis. Yna, os oeddem yn lwcus, fe roedd cylchgrawn llaith yn gorwedd ar y llawr, a fe allech chi ei sgubo yn gyflym i'ch bag. Y ffordd arall, wrth gwrs oedd mynd i'r siop bapur ar y gornel i'w brynu. Fel yr oeddwn i'n dweud, roedd hi'n anodd iawn.

Roedd hi yr un mor anodd cael gafael ar fideos treisgar (yn enwedig rhai oedd yn cynnwys rhyw). Roedd rhaid mynd i'r drafferth o fynd i siop y gornel eto. Winc cyflym i'r siopwr, gan ddweud "it's for my father" (dyma sut oedd hi'n bosib cael sigarennau a alcohol hefyd), yna nôl gartref i'w gwylio, tra fod ein rhieni allan yn prynu carpedi neu rhywbeth.

Heddiw, wrth gwrs, mae dyfodiad yr internet wedi sgubo hynna i gyd i ffwrdd, a mae'n hawdd i brynu cyfrifiadur a modem er mwyn cael y lluniau yn syth i'r stafell wely. A'r peth gorau amdano yw, mae'r rhieni yn talu'r bil ffôn! Dim cwestiwn wedi ei ofyn - maent yn hoff o frolio i'w ffrindiau - "Mae e mor addysgiadol, gyda'r pethau CD's hefyd - mae e'n treulio oriau ar y cyfrifiadur yn gwneud ei waith cartref"

Diolch UBAB, am raglen ddychan orau'r ganrif, ac am ddod a'r pwnc difrifol hwn i sylw degau o rieni dosbarth canol Cymru.


Sb x


Os ydych yn gweld y lliwiau cywir ar y dudalen, yn tydi o yn
eich atgoffa o'r hen fonitors gwyrdd ar gyfer prosesu geiriau?