Y Botel Wenwyn Ar Agor

(Oes rhaid i mi drio bod yn ddychanol? Ocê, te, ond dim ond yn y rhagarweiniad...)

Mae Radio Cymru, gorsaf ieuenctid ein cenedl, â hanes hir a disglair o roi bys ar byls Cymry'r dyfodol. Roedd rhaglenni fel Helo Bybl yn yr 80au a'r gampwaith Bant a'r Mart yn y 90au wedi ysbrydoli cannoedd ar filoedd o blant a phobl ifanc i roi Yr Iaith ar Waith(tm). Ond er gwaetha'r llwyddiannau yma, roedd 'na well i ddod...

Nawr, dydw i ddim yn gyfryngi. O'r gorau, 'rwy wedi ymddangos ar Heno unwaith, ond 'tydi pawb? A dydw i ddim ag awydd bod yn gyfryngi chwaith; mae'r oriau'n rhy hir a'r cyflog yn rhy fach. Ond mi ydw i yn un o'r bobl od 'ma sy'n hoffi gwrando ar y radio. Ac un o'r rhaglenni oeddwn i'n hoffi gwrando arni oedd rhaglen bop ddi-nod. Fe'i gwthiwyd i gilfach lychlyd o amserlen Radio Cymru; credai nifer nad oedd ei dylanwad yn fawr, ac ychydig fyddai'n gweld ei cholli...

A do, fe ddaeth Heno Bydd yr Adar yn Canu i ben ddechrau Hydref eleni. Pam? Wel, am fod rhaid Symud Gyda'r Oes a Pheidio A Bod Yn Hen-Ffasiwn os am ddenu gwrandawyr newydd. Ond a oedd y caws mawr wnaeth ddileu'r rhaglen yn wrandawr cyson arni? Oedd ef neu hi erioed wedi ei chlywed? Rwy'n gobeithio byddai pob un o benaethiaid Radio Cymru wedi clywed am Catatonia a Gorky's, ond faint fedrai enwi'r rhaglen radio lle clywyd y rhain gyntaf?

Disgrifiwyd y sioe gan ei chynhyrchydd cyntaf fel 'rhaglen i gasglwyr recordiau', ond mewn gwirionedd roedd hi'n fwy na hynny. Rhaglen oedd hi i unrhyw un oedd a diddordeb mewn hanes pop a roc Cymraeg. Heb y Dyniadon Ynfyd a Thebot Piws, fyddai 'na ddim sîn Roc Gymraeg, ffwl sdop. Heb Malcolm Gwion, fyddai 'na ddim Llwybr Llaethog, na Pop Negatif Wastad, a heb y rhain, byddai'r sîn ddawns yn bur wahanol. Ac o gynnyrch arloeswyr heddiw - y Johnny "R"s a'r Rheinallt H Rowlandses - y ffurfir dyfodol cerddoriaeth gyfoes y Cymry. Ac i Heno Bydd yr Adar yn Canu mae'r diolch am roi'r llwyfan cynta' i'r ddau yma.

O'r gorau, gwell i mi gyfadde fy mod i'n hoff iawn o Heno Bydd yr Adar yn Canu beth bynnag, dylanwadol neu beidio. Ond mae ei hymadawiad a Radio Cymru yn codi cwestiynau ehangach. Beth yw'r resymeg sy'n gadael i o leia' un rhaglen nosweithiol ar yr orsaf i fod yn frith - ocê, te, yn llawn - o recordiau Saesneg, a hynny am awr gyfan? Dewch 'mlaen, Radio Cymru, peidiwch a chredu am eiliad gallwch chi gystadlu a gorsafoedd cenedlaethol. Os ydy ieuenctid Cymru am glywed pop Saesneg, at Radio One, neu Virgin, neu os ydyn nhw'n wir ddespret, at Atlantic 252 maen nhw'n troi. Peidiwch a thwyllo'ch hunain; fedrwch chi fyth cystadlu a'r rhain....

Ac ai fi yw'r unig un i feddwl bod llawer o gyflwynwyr newydd Radio Cymru yn fwy o bersonoliaethau ac yn llai o garwyr cerddoriaeth? Dangos fy oed ydw i nawr mae'n rhaid (rwy'n 22; gwallt yn britho, clyw yn methu...) ond mae gen i gof clir o gyflwynwyr gwreiddiol Hwyrach. Mae Ian Gill dal yno, diolch byth, ac ydy, mae e'n 'rhoi'r flaenoriaeth i'r gerddoriaeth'. Mae angen rhaglenni fel rhai Owain Gwilym er mwyn denu cynulleidfa Just Seventeen a Smash Hits. Ond mae angen hefyd rhaglenni tebyg i rai Siwan Elis, Gary Slaymaker, Nia Melville a hyd yn oed 'Bobs' Pritchard; rhai wedi'u cyflwyno gan gyflwynwyr sy' a wir ddiddordeb yn y gerddoriaeth maen nhw'n ei chwarae.

Ond peidiwch a phoeni. Mae 'na droellwyr sy' dal o'r farn fod cerddoriaeth yn bwysicach na phersonoliaeth. Mae nhw'n chwarae pob math o recordiau; yr hen, y newydd a phob arddull dan haul. Mae nhw'n gefnogol iawn, wrth reswm, i bop Cymraeg, ac yn ffans mawr o'r Super Furry Animals, Gorky's a Catatonia. Eu henwau yw Mark Radcliffe a John Peel, ac fe gewch eu clywed ar Radio 1 bob nos o'r wythnos; yr un amser a rhaglenni Hwyrach, a dweud y gwir...



Rhys James Jones (R.J.Jones@swan.ac.uk)