Y Botel Wenwyn Ar Agor

Helo Sheep shaggers, ie chi...

Eisiau gwybod rhywbeth neis am America?

Ydych?

Wel peidiwch gofyn i fi i sôn am unrhywbeth da am y ffycin twll, achos sdim llawer allen i ddweud.

Ar ddechrau'r ganrif doedd na ddim pafin i gael yn nhrefi America, ond beth a elwid yn "sidewalk", sef platfform cul o bren dwy drodfedd o led ar ochr y stryd. Roedd y 'stryd' ond yn heol fwdlyd mochedd, llawn carthion.. neis iawn.

Un tro roedd dwy fenyw ddu yn cerdded i lawr y "sidewalk", a daeth dyn gwyn i'w cyfarfod. Fe welodd y dyn y ddwy yn neshau ato, ac am nad oedd llawer o le, camodd y dyn yn gwrtais oddi ar y 'sidewalk', a sefyll yn y mwd a'r cach, fel medrant gerdded heibio.

"Da iawn" medde chi "doedd yr Americanwyr ddim rili yn hiliol"

Ond na. Cymro oedd y dyn hwn. Fe welodd criw o Americanwyr y dyn yn gwneud be wnaeth, ac am iddo feiddio dangos parch at bobl du, ymosodwyd arno yn y fan ar lle yn ffiaidd, nes oedd yn waed i gyd.

God save America.. The land of the free.. ha ha ffycin ha Mickey Mouse.

Ôl Nodyn: ymddangosodd yr erthygl hwn yn wreiddiol yn y ffansin "Brechdan Tywod" ddwy flynedd yn ôl. Yn anffodus ni gyhoeddwyd byth mo'r ffansin, oherwydd fe gafodd y master copi ei gonffesgeitio gan Heddlu Dyfed Powys am fod yn subversive. Felly dyma pam y mae hwn wedi ei osod ar y We, lle na ddylai sensoriaeth "Big Brother" amharu ar hawl yr unigolyn i fynegi ei farn. Bellach mae master "Brechdan Tywod" wedi ei ddinistrio gan Heddlu Dyfed Powys. Ond ys dywedodd y Prodigy:

"FUCK 'EM AND THEIR LAW"



"Billy Jinx"