



Barn
Cylchgrawn misol sy'n trafod popeth o llên i chwaraeon ac o gerddoriaeth i addysg. Dyma'r broliant swyddogol:
Y cylchgrawn misol sy'n holi a herio
bARN? Be, ydi o'n dal i fynd? Ydi wir, ac nid rhygnu mynd chwaith er ei fod wedi mynd heibio'r deg ar hugain oed. Mae bARN wedi cyrraedd y nawdegau - yn edrych yn wahanol, yn llawn lluniau, ond yn bwysicach na di, a'i fys ar byls yr hyn sy'n digwydd heddiw yng Nghymru a thu hwnt. Mae wedi datblygu'n gylchgrawn materion cyfoes sy'n holi nid yn gymaint 'pryd' a 'lle', ond 'sut' a 'pham', gyda'r pwyslais ar drafodaeth aeddfed sydd ar yr un pryd yn ddifyr.
Pris tanysgrifiad blwyddyn yw £18.00 (neu £35.00 am danysgrifiad tramor). Dylai sieciau fod yn daladwy i Barn Cyf.
- Cyfeiriad
- Barn Cyf.,
Uned 2,
Gweithdai Busnes,
Parc Busnes Cross Hands,
Cross Hands,
Llanelli,
Dyfed
SA14 64B
Cymru - Ffôn
- ?
- Cyflunydd
- ?
- Rhif ISSN
- ?