


Big Issue Cymru
Mae'r Big Issue yn brosiect a gychwynwyd gan John A. Bird yn Llundain i helpu y di-gartref ar strydoedd y ddinas. Fe lawnsiwyd cylchgrawn o'r enw y Big Issue ac yna fe werthwyd y cylchgrawn ar y stryd gan y di-gartref. Mae'r gwerthwr yn gwerthu y cylchgrawn am 70c ac yn cadw 40c iddo'i hun. Drwy'r system yma, mae'r di-gartref yn gallu cael incwm parhaol, sydd yn ei gosod ar yr ysgol i wella ei safon byw.
Y llynedd, fe lawnsiwyd y prosiect yng Nghymru. Mae'r Big Issue Cymru yn cael ei gyhoeddi bob pythefnos fel atodiad tu fewn i'r cylchgrawn arferol. Erbyn hyn, fe'i werthir ar strydoedd Caerdydd a Abertawe; yn y Body Shop, Caerfyrddin ac yn Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Bangor. Mae'r Big Issue hefyd ar gael yn Llundain, yr Alban, Gogledd-Orllewin Lloegr, Bath, Brighton, Birmingham, Bryste, a Iwerddon
Mae yna erthyglau Cymraeg ymhob rhifyn, a'r golygydd Cymraeg yw John Griffiths.
- Cyfeiriad
- The Big Issue Cymru,
22 St. Mary Street,
Caerdydd
CF1 2AA
Cymru - Ffôn
- +44 (0)1222 224 606
- Cyflunydd
- +44 (0)1222 230 362