

Y Cyngor Roc A Gwerin
Sefydlwyd CRAG ar ddiwedd 1993 fel pwyllgor i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ymysg yr ifanc yn bennaf. Mae cryn helynt wedi bod yn ddiweddar gyda sôn fod arian cyhoeddus wedi ei gam-ddefnyddio i noddi'r pwyllgor. Ond wnawn ni ddim sôn fwy am hynna nawr...
Dyma cyfansoddiad swyddogol CRAG :
"Amcan CRAG fydd gweithredu fel asiantaeth i ddatblygu, hyrwyddo a chyd-drefnu ym maes y diwylliant a'r diwydiant roc a gwerin i'r graddau proffesiynol uchaf posibl drwy weithgareddau a gwasanaethau fyddai o fudd cyffredinol i bawb sy'n ymwneud a'r maes ac mewn modd na fyddai'n ffafrio unrhyw garfan, gwmni neu fath o gerddoriaeth nac yn cystadlu'n uniongyrchol ag unrhyw gwmni, gymdeithas neu sefydliad sydd eisioes yn weithredol yn y maes. Bydd CRAG yn gweithredu'n unol a dymuniadau cerddorion, trefnwyr, hyrwyddwyr a.y.b. a bydd yn atebol yn ddemocrataidd i'r rhai sy'n ymwneud a'r diwylliant / diwydiant / celfyddyd canu cyfoes."
- Cyfeiriad
- 9, Stryd Twll yn y Wal,
Caernarfon,
Gwynedd
LL55 1RF
Cymru - Ffôn
- +44 (0)1286 676 161
- Cyflunydd
- cyn bo hir